offerynnau statudol cymru
2011 Rhif 1706 (Cy. 192)
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Trefniadau Pryderon, Cwynion ac Iawn) (Cymru) (Diwygio) 2011
NODYN ESBONIADOL
(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)
Mae’r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Trefniadau Pryderon, Cwynion ac Iawn) (Cymru) 2011 (“y prif Reoliadau”).
Mae rheoliad 2(1) yn gohirio’r dyddiad y daw Rhan 7 o’r prif Reoliadau i rym, o 1 Hydref 2011 tan 1 Ebrill 2012. Mae Rhan 7 o’r prif Reoliadau yn ymdrin â'r modd y mae iawn i'w ddarparu pan fo Ymddiriedolaeth GIG yng Nghymru neu Fwrdd Iechyd Lleol yng Nghymru yn ymuno mewn trefniant i ddarparu gwasanaethau iechyd gyda chorff GIG yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon.
Mae rheoliad 2(2) yn amnewid rheoliad 52(5) newydd yn y prif Reoliadau, i adlewyrchu’r dyddiad newydd y daw Rhan 7 i rym a chymhwyso’r trefniadau iawn trawsffiniol yn y Rhan honno i wasanaethau sydd wedi eu darparu ar neu ar ôl 1 Ebrill 2012.
Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, ni thybiwyd bod angen cynnal asesiad effaith rheoleiddiol o gostau a buddion tebygol cydymffurfio â’r Rheoliadau hyn.
offerynnau statudol cymru
2011 Rhif 1706 (Cy. 192)
Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Trefniadau Pryderon, Cwynion ac Iawn) (Cymru) (Diwygio) 2011
Gwnaed 11 Gorffennaf 2011
Gosodwyd gerbron Cynulliad
Cenedlaethol Cymru
12 Gorffennaf 2011
Yn dod i rym 3 Awst 2011
Mae Gweinidogion Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 1, 11(2)(d) ac 11(3) o Fesur Gwneud Iawn am Gamweddau’r GIG (Cymru) 2008([1]).
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
1.—(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Trefniadau Pryderon, Cwynion ac Iawn) (Cymru) (Diwygio) 2011, a deuant i rym ar 3 Awst 2011.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i wasanaethau a ddarperir fel rhan o'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru.
(3) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y prif Reoliadau” (“the principal Regulations”) yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Trefniadau Pryderon, Cwynion ac Iawn) (Cymru) 2011([2]).
Diwygio’r prif Reoliadau
2.—(1) Yn rheoliad 1(2) yn lle “1 Hydref 2011” rhodder “1 Ebrill 2012”.
(2) Yn lle rheoliad 52(5) rhodder: “Ni fydd cwynion ynghylch gwasanaethau a ddarparwyd gan gyrff GIG Lloegr, cyrff GIG yr Alban neu gyrff GIG Gogledd Iwerddon, fel y'u diffinnir yn rheoliad 34, cyn 1 Ebrill 2012 yn cael eu hystyried o dan Ran 7 o'r Rheoliadau hyn.”.
Lesley Griffiths
Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru
11 Gorffennaf 2011